OWAIN GLYNDWR COMMUNICATES

Promoting an interest in the history of Owain Glyndwr, the Welsh Son of Prophecy, his life, times and society and his great Welsh War of Independence;also promoting causes today in Glyndwr's spirit and promoting the flying of the Glyndwr flag on Sept 16 Glyndwr Day.

Friday, September 17, 2010

Teyrnged i'r Arglwydd Richard Livesey: A tribute to Lord Richard Livesey


Gyda thristwch mawr clywais y newyddion y bore ‘yma fod Yr Arglwydd Richard Livesey wedi’n gadael ni. Cefais y fraint a’r pleser o gwrdd â sgwrsio ag ef yng Nghefn Caer ar Fehefin y 18fed eleni wedi iddo ddod yno i ddadorchuddio copi Cefn Caer o Lythyr Pennal. Roedd Richard yn berson addfwyn a charedig dros ben, yn wladgarwr ymroddgar a fyddai bob amser yn barod ei gymwynas. Bu’n gefnogol iawn i Lysgenhadaeth Glyndŵr ar hyd y blynyddoedd ac i ‘Cofiwn’ cyn hynny - a phan ofynnwyd iddo ddadorchuddio’r Llythyr yng Nghefn Caer yn fis Mehefin, cytunodd yn syth er nad oedd mewn llawn iechyd. Cawsom ddiwrnod arbennig yng Nghefn Caer y diwrnod hwnnw a gwn fod Richard wedi mwynhau’r achlysur yn fawr iawn. Byddaf yn trysori'r cof ohono ar y prynhawn heulog hwnnw, yn y berllan hyfryd (sydd bellach yr Ardd Goffa i Arwyr Glyndŵr)yn gwenu'n siriol wrth ddarllen y placiau sydd yno'n barod i rai o'r arwyr..

Heb amheuaeth, roedd Richard yn un o ‘Bobl Glyndŵr’ a diolchaf i Dduw am y cyfle i ddod i adnabod a chydweithio a gwladgarwr Cymreig mor ddiffuant ac annwyl. Mae'n amser trist a Bydd colled mawr ae ei ôl i'r genedl, Llysgenhadaeth Glyndŵr a Chefn Caer a gallaf ond Estyn fy nghydymdeimlad mwyaf dwys i'w deulu.


It was with great sadness that I heard this morning that Lord Richard Livsey has passed away. I had the privilige and pleasure of meeting him just over two months ago when he came to Cefn Caer in Pennal to unveil Cefn Caer's copy of the Pennal Letter. Richard was an extremely kind and gentle person. He was a dedicated Welsh patriot that was always ready and willing when called on for assistance. He had been very supportive of Embassy Glyndŵr's work over the years and of Cofiwn's work prior to that - and when he was approached to unveil the 'Letter' at Cefn Caer in June, he eagerly accepted the invitation - despite his ill health. We had a very special day at Cefn Caer that day and I know that Richard really enjoyed the event and I will always treasure the memory of him on that sunny afternoon, strolling around the beautiful and tranquil orchard (which has become the Glyndŵr Heroes Memorial Garden) with one of his usual wry smiles as he read the inscriptions on the memorial stones that had already been placed there by representitives of a number of communities throughout Wales in memory of their local 'Glyndŵr's hero.

Without any doubt, Richard was one of the 'Pobl Glyndŵr' and I thank God that I had the opportunity to get to know and work with such a genuine Welsh patriot and gentleman. This is a sad time and a great loss for our nation, Embassy Glyndŵr and Cefn Caer and I can but convey our deepest sympathies to his family.

Siân